|
Cofnodion o gyfarfod y Cyngor gynhaliwyd Nos Iau 17.07.08
Yn y Ganolfan, Bontnewydd am 7:15 yr hwyr.
Presennol :- Cynghorwyr Dafydd Iwan (Cadeirio) Geraint Jones, Hilma
Lloyd Edwards, T Cyril Owen, Ifor Dylan Williams, Marian Roberts, Bethan
Bigwood, Erddyn Davies, Cynghorydd Sir
Chris Hughes a Mrs Catrin Roberts, Clerc Cyngor Cymuned Bontnewydd.
Bu i Cyng Dayfdd Iwan croesawu pawb i’r cyfarfod.
- Datgan
Diddordeb/buddiant personol. – Cyng Geraint
Jones – eitem 6 f).
- Ymddiheuriadau – Cyng Emyr Williams a Rhys Alun Pugh.
- Cadarnhau
Cofnodion y cyfarfod Diwethaf - derbyn fel rhai cywir
- Ethol Is-Gadeirydd – Bu i Erddyn
Davies ei ethol a chytuno i fod yn Is-Gadeirydd.
- Materion yn codi
- Cynllun Datblygu Unedol – Derbyniwyd llythyr
gan Rheolwr Polisi a Perfformiad (Cynllunio a Thrafnidiaeth) ynglyn a’r
Cynllun Unedol. Bu i’r clerc ddarllen y llythyr i’r aelodau yn bresennol.
Dim gweithred pellach ar hyn o bryd.
- Datblygiad ger Lon Cefnwerthyd, Bontnewydd – Derbyniwyd llythyr
gan yr Swyddog Cynllunio Ardal Arfon yn nodi fod yr cais yn cael ei
gyflwyno i Bwyllgor Ardal Arfon er
mwyn ei drafod a gwneud penderfyniad arno.
Gweithred:- Clerc i wneud yn siwr
fod gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned wedi ei dderbyn gan yr Adran
Cynllunio, Cyngor Gwynedd.
Mae’r Clerc wedi derbyn e-bost gan Cyfarwyddwr tir
Watkin Jones yn rhoi cynnig i fynychu cyfarfod Cymuned er mwyn trafod y Llecyn
Chware ar yr datblygiad uchod. Gweithred:-
Clerc i ymateb gan wrthod yr cynnig hyd nes fod yr cais wedi ei drafod yn
Bwyllgor Ardal Arfon.
- Afon Beuno - Derbyniwyd llythyr gan Peiriannydd
Ardal Arfon dyddiedig 3 o Orffennaf 2008 yn nodi y bydd y gwaith yn cael
ei gyflawni yn fuan. Bu i’r Cyng Sir C Hughes nodi ei fod hefyd wedi
trafod y mater gyda’r Peiriannydd ar y safle. Nid oedd y Peiriannydd yn
sicr pwy sy’n gyfrifol am y safle, Cyngor Gwynedd neu Asiantaeth yr
Amgylchedd. Dim gweithred ar hyn o bryd.
- Prydles Cyngor Gwynedd/Cyngor Cymuned – Y Ganolfan – Derbyniwyd
gopi o’r brydles wedi ei arwyddo. Gweithred:
Cynghorydd Geraint Jones am edrych drost yr brydles a chysylltu a Cyng
Dafydd Iwan a Catrin Roberts gyda sylwadau.
- Prydles i Clwb Pel Droed Ieunectid Bontnewydd - angen diwygio’r cyfansoddiad. Gweithred:- Cyng Dafydd Iwan, Cyng
Geraint Jones a Catrin Roberts i drefnu i ddiwygio’r cyfansoddiad ac
wedyn chysylltu a’r Cyngor.
- Palmentydd Glan Beuno – Derbyniwyd llythyr
dyddiedig 20 o Fai 2008 gan y Peiriannydd Ardal Arfon yn nodi fod yr
safle yn cael arolwg i ddarganfod os oes angen gwaith i’w wneud yn
ddiogel. Bu i’r Cyng C Hughes nodi ei fod wedi cyfarfod ar y safle gyda’r
Peiriannydd er mwyn trafod y mater. Dim gweithred pellach.
- Cyflwr Lon Llanfaglan - derbyniwyd llythyr dyddiedig 3 o
Orffennaff 2008 gan Peiriannydd Ardal Arfon yn ein gwahodd i gyfarfod ar
y safle i drafod y mater. Gweithred:-
Cyng Ifor Williams i gysylltu a swyddog, Gyfadran yr Amgylchedd i wneud
trefniadau i gyfarfod ar y safle.
- Ciosg Llanfaglan – derbyniwyd ymateb gan
Swyddog Polisis a Perfformaid (Cynllunio a Thrafnidiaeth) yn nodi ei bod
wedi anfon ein llythyr gyda’r ymholiadau ymlaen i BT am sylwadau. Gweithred:- Clerc i rhoi’r mater ar
rhaglen yr cyfarfod nesaf.
- Safle Lon Groes – Clerc wedi cysylltu a
Swyddog y Cyngor yn nodi fod y mater wedi ei ddatrys. Dim gweithred
pellach.
- Lon Feics – Lon Eifion/Lon Glas Gwyrfai – heb dderbyn
ymateb eto gan y Swyddog Beicio. Gweithred:-
Clerc i ddilyn y mater i fyny.
- Ymddygiad Gwrth Gymdeithasol ym Montnewydd - Clerc wedi gohebu a siarad gyda PC
Tongue ynglyn a’r mater. Ers y drafodaeth mae holiadur wedi ei ddosbarthu
i trigolion ym Montnewydd. Dim
gweithred ar hyn o bryd.
- Ty Glan Menai Llanfaglan – Derbyniwyd llythyr
gan Swyddog Cynllunio Ardal Arfon dyddiedig 25 o Fehefin 2008 yn nodi fod
y safle wedi dilyn y rheolau perthnasol. Dim gweithred pellach.
- Coeden yn gor-dyfu 14 Rhes Beuno, Bontnewydd - Derbyniwyd llythyr dyddiedig 7.7.08 gan yr Uwch Swyddog
Stadau yn nodi fydd yr coeden yn cael ei drimio cyn gynted a bydd y tymor
blodeuo drosodd tua mis Awst. Dim
gweithred pellach.
- Dogfen drafod Gwynedd ar y Cyd 2008-12 – Cynghorydd Geraint
Jones wedi mynd drwy’r ddogfen. Wedi trafod sylwadau gyda’r aelodau yn
bresennol a phawb yn cytuno. Gweithred: Cyng Geraint Jones i rhoi sylwadau ar y ddogfen.
- Ein Cynllun ni, Eich Cynllun Chdi -dim sylwadau
- Ceisiadau Cynllunio
Dim ceisidau wedi ei dderbyn
- Archwiliad Blynyddol Cyngor Cymuned Bontnewydd-
Hacker Young - Llythyr wedi ei dderbyn
mis Gorffennaf ynglyn a’r archwiliad blynyddol. Gweithred :- Clerc i wneud y trefniadau priodol a chysylltu a’r
swyddfa bost i ofyn a fyddai’n bosib rhoi nodyn i fyny yn y swyddfa bost
ynglyn ar archwiliad.
- Gohebiaeth wedi ei dderbyn
- Cyngor Gwynedd – Cyfadran yr Amgylchedd –Rhaglen Man
welliannau – Encilfan Newydd, Bontnewydd – Gweithred:- Clerc i ohebu i ddiolch am y gwaith ac i hysbybu fod
yr man yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwerthu ceir.
- Cynulliad
- Adolygiad o’r tefniadau Etholiadol - Dim gweithred pellach.
- Bwrdd Iechyd Lleol – Cyflanwi’r Weledigaeth
Gyda’n Gilydd – Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles newydd Gwynedd –
Er gwybodaeth yn unig.
- Un Llais Cymru – Rhaglen Hyfforddiant Genedlaethol – Gweithred:- Clerc i ymateb gan nodi’r
niferoedd sydd a diddordeb.
- Cynulliad – Cynllun Partneriaeth Llywodraeth
Leol 2008
ac adroddiad Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Lleol 2006/07 – Er Gwybodaeth yn unig.
- Ombudsman – Taflenni/ffurflenni Dwiygiedig: Sut i
gwyno bod aelod o awdurdod lleol wedo torri’r cod ymddygiad. – Gweithred –aelodau’r Cyngor Cymuned i
gymeryd copi o’r llyfryn.
- Cod Ymddygiad
(Geraint Jones) - Cyng
Geriant Jones yn nodi ei fod wedi mynychu’r hyfforddiant ar y Cod
Ymddygiad a cynnigwyd i rhannu’r gwybodaeth yn ein cyfarfod mis Hydref
2008. Fydd angen oddeutu 15/20 mun i fynd drwy cynnwys yr hyfforddaint yn
fras. Rhaid i’r Cyngor fabwysiadu’r cod. Ni allem dynnu dim ohonno ond
gallem adio iddo. Rhaid rhoi copi ohonno mewn man cyhoeddus.Gweithred:- Aelodau yn mabwysiadu’r
Cod. Clerc i anfon copi i’r Ombwdsman a rhoi copi mewn man cyhoeddus.
Roedd yr aelodau yn croesawu Cyng Geraint Jones i wneud cyflwyniad ar y
Cod Ymddygiad i’r aelodau yn ein cyfarfod mis Hydref. Clerc i nodi fel
eitem ar gyfer y rhaglen mis Hydref 2008.
- Materion Hwyr
- Llythyr gan trigolion
Llwyn Beuno yn nodi ymddygiad gwrth gymdeithasol yn cae chware yn Llwyn
Beuno. Gweithred:- Clerc i lythyr
gan nodi derbyn yr sylwadau a rhoi chopi o’r llythyr i PC Tongue.
- Sedd Wag – mae yna un
sedd wag yn y Cyngor Cymuned. Unrhyw un sydd a diddordeb i gysylltu a’r
clerc.
- Copi o llythyr Tai
fforddiaddwy gan Alun Ffred Jones
- Gweithred:- Cyng Dafydd
Iwan i rhoi sylwadau.
- Cist Gwynedd – llyfryn
Cist Gwynedd – er gwybodaeth yn unig,
- Materion Eithredig
Dim materion yn codi.
- Dyddiad Cyfarfod Nesaf - Nos Iau 18 o Fedi 2008
am 7:15 yr hwyr yn Y Ganolfan, Bontnewydd. Fydd Hywel Williams AS yn
bresennol yn y cyfarfod ym mis Medi 2008.
|