|
Eisteddfod 2009 - Y Bala
Derbyniad busnes ar
Faes yr Eisteddfod gyda’r Dirprwy Brif Weinidog - Nodyn i’r
dyddiadur
Cynhelir derbyniad
arbennig yng nghwmni Ieuan Wyn Jones AC, dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth
Cynulliad Cymru faes yr Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau ddydd
Mercher, 5 Awst rhwng 3 a 4pm.
Bydd Mr Jones, sy’n
weinidog dros economi a thrafnidiaeth, yn siarad ar stondin Cyngor Gwynedd
(496-499), ynghyd ag Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards.
Disgwylir anerchiad byr tua 3.30pm.
Bydd cyfle i drafod yr
hinsawdd economaidd fyd-eang a’i heffaith ar Wynedd a chynllun gweithredu'r
Cyngor sydd wedi ei amlinellu yn llyfryn Ymateb i’r Dirwasgiad Cyngor
Gwynedd.
Business recption at
Eisteddfod with Deputy First Minister - Diary Marker
A special reception in
the company of Ieuan Wyn Jones, the Welsh Assembly’s Deputy First Minister, will
be held at the Meirion and District National Eisteddfod on Wednesday, 5 August
between 3 and 4pm.
Mr Jones, minister for
the economy and transport, will be speaking at the Gwynedd Council stand on the
festival site (496-499), along with Leader of Gwynedd Council, Councillor Dyfed
Edwards. A short speech is expected at 3.30pm.
It will be an
opportunity to discuss the national and international economic climate and it’s
effect on Gwynedd as well as the Council’s action plan which is outlined in
Gwynedd Council’s Recession Recovery Plan booklet.
Croesawu Eisteddfodwyr i Wynedd
Ardal Y Bala fydd calon Cymru’r wythnos nesaf pan fydd yr Eisteddfod
Genedlaethol yn cael ei chynnal yn y dref.
Bydd yr wyl, a gynhelir rhwng 1 a 8
Awst, yn gyfle i bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt i ddod at ei gilydd i ddathlu
diwylliant unigryw Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones, cadeirydd Cyngor
Gwynedd, ei bod yn falch iawn gweld pobl o bob cwr o’r wlad yn ymweld â Gwynedd
a’r brifwyl.
Meddai: “Ar ran trigolion Gwynedd a’r Cyngor, mae’n rhoi
pleser o’r mwyaf i mi eich croesawu draw i Wynedd ac i Eisteddfod Genedlaethol
Meirionnydd a’r Cyffiniau.
“Nid yw’r Bala yn ddieithr i groesawu’r Eisteddfod gan fod yr ardal wedi
llwyfannu sawl gwyl gofiadwy ar hyd y
blynyddoedd. Unwaith eto, rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â hen ffrindiau a
chroesawu miloedd o ymwelwyr yma am y tro cyntaf.”
Bydd Cyngor Gwynedd yn ymgartrefu yng nghanol y bwrlwm ar Faes yr
Eisteddfod Genedlaethol. Bydd stondin y Cyngor
(496-499) yn ffenest siop i’r holl wasanaethau a chyfleoedd sydd gan y Cyngor
i’w gynnig i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r sir.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Yn ystod
wythnos yr Eisteddfod, bydd miloedd o bobl yn ymweld â’r Maes un ai i gystadlu
neu i fwynhau’r bwrlwm a chwrdd â hen ffrindiau yn y brifwyl.
“Mae’r ffaith y bydd Y Bala yn dod yn brifddinas answyddogol Cymru am yr
wythnos yn gyfle gwych i ni arddangos i bawb beth sydd gan Wynedd i’w gynnig.
“Mae hefyd yn gyfle i gynghorwyr a staff gwrdd â thrigolion ac ymwelwyr
er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd gan y Cyngor
i’w gynnig. Gallwn hefyd ddysgu mwy am beth yw anghenion a dyheadau trigolion y
sir drwy wrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.”
Bydd llu o weithgareddau yn
cael eu cynnal yn ddyddiol ar stondin Cyngor Gwynedd – o gyngor busnes i
entrepreneuriaid, pob math o weithgareddau hwyliog i blant o bob oed a llawer
llawer mwy. Ewch draw i’r stondin i weld yr amserlen lawn o weithgareddau.
LLUN: Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones
ac Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards gyda Threfnydd yr
Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards (gweler yma ar y chwith)
Eisteddfod-goers are welcome in Gwynedd
The first week of August will see Bala transformed into
Wales’ unoficial capital as the town plays host to the National Eisteddfod.
The festival, which runs between 1 and 8 August, will be
an opportunity for people from all over Wales and beyond to come together at
Meirionnydd to celebrate Wales’ unique culture.
Gwynedd Council Chairman, Councillor Anne Lloyd-Jones,
said that she was delighted to see people from all over Wales come to Gwynedd
for the festival.
She said: “It gives me great pleasure to extend a warm
‘croeso’ to everyone who is visiting the Meirionnydd and District National
Eisteddfod.
“Y Bala is very accustomed to welcoming the Eisteddfod –
the area has hosted several memorable festivals over the years.
“Once again this year we look forward to meeting up with
old friends and welcoming many thousands more for the first time.”
Gwynedd
Council’s home from home during the event will be at the heart of the bustling
the festival site – the National Eisteddfod Maes.
The
Gwynedd Council stand (stall 496-499) will be a shop window for some of the
services and opportunities Gwynedd Council offers to the county’s residents
young and old, to businesses and to visitors looking to explore our county’s
breathtaking scenery.
Gwynedd
Council Leader, Councillor Dyfed Edwards, said:
“During
Eisteddfod week, thousands of people visiting the Maes either to compete or to
simply soak up the atmosphere at this unique national event.
“The
fact that Y Bala will be Wales’
unofficial capital for a week gives us the perfect opportunity to showcase what
Gwynedd has to offer.
“It
is also a chance for councillors and staff to meet residents and visitors, to
raise awareness of the services and opportunities the Council offers and to
learn more about people’s needs and aspirations by listening to what they have
to say.”
There
will be a whole range of activities taking place on the Gwynedd Council stand –
from business advice for budding entrepreneurs to a whole host of fun
activities for children of all ages and so much more. Come along to the Council
stand to see the full timetable of activities.
PHOTOGRAPH: Gwynedd Council
Chairman, Councillor Anne Lloyd-Jones and Gwynedd Council Leader, Councillor
Dyfed Edwards with Eisteddfod organiser Hywel Wyn Edwards (seen on the left)
Lansio hunaniaith ar faes yr Eisteddfod
Am 10 o’r gloch, bore Gwener, 7 Awst 2009, ar
stondin hunaniaith ar faes
Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 bydd enw a brand newydd ar
gyfer hyrwyddo a chefnogi’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd yn cael ei lansio’n
swyddogol gan Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Iwan Trefor Jones, Cadeirydd
hunaniaith.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae grwp
aml-asiantaethol wedi dod ynghyd i gydweithio er mwyn gosod cyfeiriad strategol
a gweithredu prosiectau er mwyn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg
yng Ngwynedd. Ar yr un pryd, gwelwyd diddymu Menter Iaith Gwynedd, gyda Bwrdd
yr Iaith Gymraeg yn awyddus i weld cynllunio llawer mwy integredig a holistaidd
yn digwydd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd. Canlyniad yr holl
waith caled a’r trafodaethau hyn yw lansio’r brand hunaniaith.
Meddai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr iaith Gymraeg
“Mae lansio’r brand hunaniaith
heddiw ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 yn garreg
filltir bwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd.”
Ychwanegodd “ Nid partneriaeth strategol gyda
rhaglen waith yn unig yw hunaniaith, oherwydd
mae’r brand yma’n perthyn i bawb yng Ngwynedd, a gall pawb yn unigolion,
grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau gyfrannu mewn amrywiol ffyrdd er mwyn
sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith mewn sir sydd yn gadarnle i’r iaith
Gymraeg.”
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd hunaniaith: “Mae’r brand hunaniaith yn ein galluogi i hyrwyddo’r holl
waith da sydd yn digwydd i gefnogi’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd. Dros y 3
blynedd nesaf, bydd Strategaeth Iaith gyntaf hunaniaith ar gyfer Gwynedd yn cael ei gweithredu – mae’n gyfnod hynod
gyffrous ac allweddol bwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd.”
Mae gan hunaniaith
stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol drwy gydol yr wythnos fydd yn
rhoi cyfle i bobl fynegi barn ar yr
iaith Gymraeg, ynghyd â nifer o weithgareddau eraill yn ymwneud â’r Gymraeg. Ar
ddydd Llun, 3 Awst 2009, bydd Adran Addysg, Canolfan Technoleg Amgen (CAT)
Corris yn westeion i hunaniaith ar
faes y Brifwyl, wedi iddynt lunio a mabwysiadu Polisi Iaith fel rhan o un o
brosiectau hunaniaith. Bydd CAT yn
cael cyfle i fynychu derbyniad yr Eisteddfod Genedlaethol, mwynhau bwrlwm y
maes, ynghyd â mynychu’r seremoni coroni i gloi’r diwrnod.
Dywedodd Anita Schwartz, Swyddog Addysg Canolfan y
Dechnoleg Amgen “Rydym ni yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen wedi ein cyffroi
wrth i ni roi ein Polisi Iaith Gymraeg newydd ar waith o fewn yr Adran Addysg.
Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ehangu cwmpas y gwaith pwysig yr ydym yn ei
wneud ynglyn â newid hinsawdd a’r amgylchedd yng Nghymru.”
Am ragor o wybodaeth, gall unrhyw un alw yn
stondin hunaniaith ar faes
Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 yn ystod wythnos y Brifwyl,
neu gysylltu â Sharon Warnes ar 01286 679 851.
Am ragor o fanylion ynglyn â
Pholisi Iaith Adran Addysg Canolfan y Dechnoleg Amgen, neu i drefnu i gwrdd â
chynrychiolwyr o Ganolfan y Dechnoleg Amgen ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Llun
3ydd Awst, cysylltwch ag Alex Randell, Swyddog y Wasg ar 01654 705953
Hunaniaith launch at the Eisteddfod
A new brand and logo for hunaniaith, the latest scheme aimed at promoting and supporting the
Welsh language in Gwynedd, will be launched at 10am on Friday, 7 August at the
hunaniaith stand at the National
Eisteddfod.
Meri Huws, chairman of the Welsh Language Board,
and Iwan Trefor Jones, Chairman of hunaniaith,
will be taking part in the event.
In recent years, language promotion in Gwynedd has
been steered by a multi agency group working towards strategic aims and
carrying out schemes which make it easier for people to use the Welsh language.
This has coincided with the abolition of Menter Iaith Gwynedd and the Welsh
Language Board is now keen to move ahead with a more integrated and holistic approach
to language promotion. This has resulted in the hunaniaith brand being launched.
Meri Huws, Chairman of the Welsh Language Board,
said: “Today’s launch of the hunaniaith
brand at the Meirionnydd National Eisteddfod is a major milestone for the future
of the Welsh language in Gwynedd.
“Hunaniaith
isn’t just a strategic partnership with a work programme. This brand belongs to
everyone in Gwynedd and everyone can contribute to its success – as
individuals, community groups, businesses and institutions – to ensure a bright
future for the language, here in a county which has always been a Welsh
stronghold.”
Iwan Trefor Jones, hunaniaith Chairman, said: “The hunaniaith brand allows us to get behind all the good work that is
carried out in Gwynedd to support the Welsh language. The first hunaniaith strategy for Gwynedd will be
carried out over the next three years – this is an exciting period and vital
for the future of the language in Gwynedd.”
Hunaniaith
will have a stall at the National Eisteddfod throughout the festival week. It
will be an opportunity for people to give their opinion on matters relating to
the Welsh language and to take part in a number of activities.
On Monday, 3 August hunaniaith’s guest at the Eisteddfod will be the Centre for Alternative
Technology (CAT) from Corris. CAT has developed a Welsh language policy, which
is a hunaniaith scheme. Staff from
the centre will take part in a reception and have a taste of the buzz of the
festival as well as attending the crowning ceremony.
Anita Schwartz, the Centre for Alternative
Technology’s Education Officer, said: “We are thrilled to have put our language
policy to work at the Centre. We are optimistic it will extend the compass of
important work we carry out about climate change and the environment in Wales.”
For further information visitors are welcome to
call by the hunaniaith stall on the
Eisteddfod Maes during the festival week or contact Sharon Warnes on (01286)
679851.
For
further information about the Centre for Alternative Technology’s Education
Department’s Welsh language policy, or to arrange a meeting with staff from the
centre at the Eisteddfod, contact Alex Randell, Press Officer, on (01654)
705953
Iechyd da i’r Eisteddfod
Mae iechyd a lles ar frig yr agenda i Gyngor Gwynedd a bydd stondin y
Cyngor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn gyfle i bobl gael blas
o’r ymgyrchoedd sy’n cael eu cynnal gan y Cyngor a’i bartneriaid.
Drwy gydol wythnos y Brifwyl bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu am wahanol
ffyrdd o gadw yn iach a heini – o wybodaeth am fwydydd maethlon i ffyrdd o
gadw’n saff wrth fwynhau cefn gwlad odidog Gwynedd.
Mae’r gweithgareddau byw yn iach a fydd yn cael eu cynnal
ar stondin Cyngor Gwynedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys:
- Her beic mynydd digidol – cyfle i seiclo rhith-daith drwy goedwigoedd
prydferth heb adael y Maes.
- Beth am
droi eich llaw at chwarae gyda’r Nintendo Wii, a gweld sut gall eich helpu
i gadw’n heini a sionc?
- Cyfle i
ennill beic plentyn - pa ffordd well o gael hwyl wrth gadw’n heini na
seiclo drwy gefn gwlad Gwynedd.
- Byddwch yn
ddiogel yn yr haul yr haf hwn - dewch i ddysgu sut i osgoi afiechydon
croen cas drwy wisgo eli haul, het a chrys. Bydd eli a hetiau i blant am
ddim ar y stondin.
- Cyfuno cadw’n heini a bwyta’n iach ar feic smwddis Cyngor Gwynedd sy’n
gwneud diod ffrwythau blasus po fwyaf ydych chi’n pedlo.
- Gwynedd ar
Blât - cyfarwyddiadur newydd sy’n rhestru cynhyrchwyr bwyd lleol.
- Beth am roi tro ar ein prawf ffitrwydd neu gerdded Nordig?
- Teithio
gwyrdd - dewch i weld sut gall Cyngor Gwynedd eich helpu i deithio mewn
ffordd fwy cynaliadwy.
- Gwybodaeth
i’r genhedlaeth hyn - dewch i ddysgu am y
Fforwm Gofalwyr, technoleg Teleofal ac opsiynau llety a gofal i’r henoed.
- Bydd arddangosfeydd chwaraeon a dawns gan ddisgyblion ysgol lleol.
Dylai gohebwyr a ffotograffwyr sydd â diddordeb yn rhai o’r digwyddiadau
uchod alw heibio i stondin Cyngor Gwynedd ar faes yr Eisteddfod (496-499) i
holi am amseroedd a dyddiadau, neu gysylltu â Gwasanaeth Cyfathrebu Cyngor
Gwynedd ar (01286) 679503.
Good health to
the Eisteddfod
Health
and wellbeing are high on the agenda for Gwynedd Council and the Council’s
stand at the National Eisteddfod will be a chance to get a taste and feel of
some of the campaigns backed by the Council.
Throughout
the week there will be a chance for visitors to learn about how to stay fit and
healthy – from what to eat to staying safe while enjoying the great outdoors.
Some
of the healthy living events on the Gwynedd Council stand at the National
Eisteddfod include:
- The digital mountain bike
challenge – take a virtual tour of beautiful woodland pathways without
leaving the festival field.
- Try your hand on our
Nintendo Wii, and see how it can keep you fit and agile.
- Win a child’s bike – a
great way of keeping fit and getting closer to nature in the beautiful
countryside of Gwynedd.
- Be Sun Smart this summer
slip on a shirt, slop on some sunscreen and slap on a hat. Come and learn
more and pick up your free sun hat and sun screen on Saturday.
- Get active and eating
healthy with Gwynedd Council’s smoothie bike. Put the pedal to the metal to
create a tasty fruit drink.
- Gwynedd on a Plate – the
new directory for buying and eating locally produced food.
- Give our fitness test a go
or give Nordic walking a go
- Go green – come and learn
how Gwynedd Council can help you to travel in a more sustainable way
- Information for the older
generation – find out about the Carers’ Forum, Telecare technology,
accommodation and care options for older people
- There will be sports and
dance demonstrations with local school children
|