Theatr Bara Caws
Pwy ydym ni 
Who are we 
Sioeau 

 

Theatr Bara Caws.

Ystad Diwydianol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd.    (01286) 676335.

Pwy ydym ni - Who are we.                       Clic am Taith Halibalw

Sioe Nesaf / Next Show.

 “DAL I BWMPIO”gan Eilir Jones

Mae tocynnau Bara Caws ar gyfer ei gynhyrchiad diweddaraf – ‘DAL I BWMPIO’ gan Eilir Jones wedi bod yn gwerthu allan ym mhob canolfan.   ‘ Mae’r sioe glybiau wastad yn boblogaidd’  meddai Linda Brown, ar ran y cwmni ac rydym yn argymhell fod pawb yn archebu ei tocynnau mewn da bryd.    Mae ‘Dal i Bwmpio’ gan yr awdur a’r digrifwr Eilir Jones  yn llawn hiwmor ac yn siwr o  godi calonnau pawb  ar ddechrau blwyddyn fel hyn -  cyfnod sydd wastad mor fflat a diflas ar ôl miri’r Nadolig. 

Clic am Taith y Sioe

Ar daith:  Chwefror 2ail – Mawrth l4, 2009.

Actorion:  Iwan Charles,  Carys Gwilym, Gwenno Elis Hodgkins,  Eilir Jones, Dyfed Thomas

Cyfarwyddwr: Tony Llewelyn

“Perchennog modurdy bach gwledig sy’n diodde’n enbyd yn y ‘credit crunch’ yw arwr y sioe glybiau eleni.  Mi fyddai sawl peth yn cael y ‘crunch’ ‘tasai’i wraig o’n cael ffordd ei hun, yn enwedig hefo’r heddlu yn snwyro o gwmpas y lle a dyn y dreth a’r banciau ar eu gwarthaf.  ‘Sut mae dyn i fyw mewn oes mor ddreng?’ yw’r cwestiwn mawr - ond mae o rhy dwp i’w ofyn. Mae o mewn twll, ond yn union fel y gweddill ohonom, mae o’n Gwrthod stopio palu.  ‘Does ganddo ddim dewis felly ond troi at yr ochor dywyll - a difaru.  Casgliad newydd o sefyllfaoedd gwallgo’, cymeriadau hurt a chwerthin a chanu yw’r sioe glybiau eto eleni.  Bydd yr awdur Eilir Jones yn arwain criw o wynebau cyfarwydd mewn clwb neu dafarn yn eich ardal chi.  Fallai bod hi’n dynn arnoch chi ond ‘does ‘na ddim gwell rheswm i’ch denu oddiwrth y teli yn nhrymder gaeaf na’r croeso gewch chi gan Bara Caws a chriw'r sioe glybiau!!!

Noder:  Anaddas i rai dan l8 oed Bydd cyfle i weld y cynhyrchiad yn ardal Sir y Flint  YNG NGHLWB RYGBI YR WYDDGRUG – NOS FAWRTH 10 o FAWRTH   7.30.  GELLIR ARCHEBU TOCYNNAU DRWY FFONIO: Menter Iaith Sir y Fflint: 01352 744040

tbaracaws@btconnect.com    *Defnyddir iaith gref

 

[Pwy ydym ni][Who are we][Sioeau]

Copyright(c) 2008 www.CaernarfonOnline.co.uk. All rights reserved.
Mail@CaernarfonOnline.co.uk