Pwy ydym ni

 

Home 
Pwy ydym ni 
Who are we 
Sioeau 

 

Cartref>Pwy ydym ni
Theatr Bara Caws.  

Cwmni Theatr Gymuned Cymraeg yw Theatr Bara Caws.  Mae cartref y cwmni yng Nghaernarfon ac ar hyn o bryd, dyma'r unig gwmni yng Ngwynedd sy'n cynnig cynhyrchiadau wedi eu cynllunio a'u perfformio yn arbennig i gynulleidfaoedd cymuned.

Mae Theatr Bara Caws yn gwmni cydweithredol sydd a chnewyllyn parhaol o bedwar aelod : tri aelod llawn-amser cyflogedig a chyfarwyddwr artistig rhan amser.  Gweinyddir y cwmni gan y pedwar aelod parhaol gyda chefnogaeth Cyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr, ac fe'i hariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Gwynedd, Mon a Chonwy, a nifer o Gynghorau cymuned.  Bu'n gofrestredig fel elusen ers l977.Er mai Gwynedd yw ei gyfrifoldeb pennaf, mae Bara Caws yn teithio Cymru gyfan yn rheolaidd, yn perfformio mewn neuaddau pentref, canolfannau cymuned, ysgolion a chlybiau, gan fynd a theatr i ardaloedd gwledig sydd yn cael ei hamddifadu o theatr broffesiynol fyw.

Cynigir y perfformiadau am ffi i unrhyw gymdeithas neu fudiad sy'n dymuno gwahodd Bara Caws i'w hardal.  Cyfrifoldeb y mudiadau hyn, wedyn, fydd trefnu'r perfformiad, sicrhau canolfan addas, dosbarthu tocynnau a lledaenu'r hysbysebion a baratoir gan y cwmni.  Teimlwn fod y system hon o drefnu yn gaffaeliad gan fod y trefnwyr lleol yn gymaint mwy cyfarwydd a'u milltir sgwar, ac o ganlyniad yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Bara Caws a'r gymuned, gan ddenu cynulleidfaoedd cryfach a sicrhau noseithiau llwyddiannus.

Mae Bara Caws yn llwyfannu tri cynhyrchiad gwahanol bob blwyddyn.  Mae'r sioeau hynny yn cael eu comisynu.  Wedi trafodaethau gwreiddiol gydag awdur i drefnu ac ymestyn syniadau, mae'r cwmni yn cadw cysylltiadau clos a'r broses o ysgrifennu.

Nod y cwmni yw, perfformio gwaith gwreiddiol a pherthnasol i drawsdoriad eang o'r gymuned, gan annog pobl, drwy gyfrwng y theatr, i weld a deall pynciau lleol a chenedlaethol o bersbectif eu amgylchedd.  Credwn bod ein gwaith nid yn unig yn adloniadol, cyffrous, dyfeisgar a chyfnewidiol, ond hefyd yn llawn her a gwybodaeth.

Gellir cysylltu â'r cwmni drwy ffonio 01286 676335 neu drwy e.bost  tbaracaws@btconnect.com

Aelodau llawn amser y cwmni yw:  Linda Brown, Emyr Morris-Jones, Berwyn Morris-Jones, Tony Llewelyn

English

 

 

[Home][Pwy ydym ni][Who are we][Sioeau]

Copyright(c) 2003 www.CaernarfonOnline.co.uk. All rights reserved.
Mail@CaernarfonOnline.co.uk