Ystad Diwydianol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd.    Ffòn (01286) 676335

 

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno

‘DERYN DU’ – addasiad Bryn Fon o ddrama David Harrower – ‘Blackbird’

Addasiad Bryn Fôn o ddrama ddirdynnol David Harrower ‘Blackbird’ yw ‘Deryn Du’. Adar bregus a’i adenydd wedi’i torri yw  Mei a Lora wedi eu handwyo’n seicolegol gan ddigwyddiadau yn y gorffennol newidiodd fywydau’r ddau am byth. Mae hi’n 27 a fynta’n 56 ac fe gawsant berthynas fer rhyw bymtheng mlynedd yn ôl - pan oedd o’n 40 a hithau’n 12 oed. Nid ydynt wedi gweld ei gilydd ers pan aeth Mei i’r carchar. Dioddefodd Lora fywyd o fysedd yn pwyntio ac wynebau’n syllu , o sibrydion cas ac ensyniadau hyll  tra aeth Mei yn ei flaen i ddechrau bywyd newydd mewn tref newydd, newid ei enw a dechrau o’r dechrau. Bellach mae o’n rheolwr mewn busnes gwerthu nwyddau meddygol ac mae Lora wedi dod o hyd iddo ar ôl gweld ei lun mewn cylchgrawn yn ei meddygfa leol.  Pan ymunwn a’r ddrama mae Mei wedi ei gornelu ganddi yn ystafell gyffredin y staff ynghanol sbwriel bywyd pob dydd y gwaith, ond pam?  Ai ydi eisiau ei niweidio, ei gyhuddo, ei gywilyddio?  Ynteu ydi hi isio ail ddechrau'r berthynas fu mor niweidiol i’r ddau. ..?

‘Mae Deryn Du yn datgymalu pedoffeilia ond hefyd yn darganfod cyffredinolrwydd amgylchiadau eithafol.  I unrhyw un sydd wedi ceisio ymweld â pherthynas ffaeledig - carwriaeth drist , ysgariad chwerw neu fagwraeth gan riant treisgar mae teimladau Mei a Lora, eu cyfrinachau a’u hunan dwyll wrth iddynt geisio deall y gorffennol yn gyfarwydd....’

Albert Williams - Performing Arts Review
 

Websites@CaernarfonOnline.co.uk Caernarfon Online, 16 Pool Lane, Caernarfon, Gwynedd. LL55 2AL Tel & Fax: 01286 676166