|
 
Christmas is
associated with peace and joy, not with clashes and sadness, with tenderness
rather than violence. It is the season of goodwill. But this does not mean that
the devil is on holiday. Atrocities do happen even on Christmas Day itself, as
the one that occurred in Holyhead on Christmas Night 1909.
A married woman, Gwen
Ellen Jones from Bethesda,
Arfon, had been cohabiting with an Irish labourer named William Murphy, with
whom she had a child. Murphy spent much time working away from home, but he
regularly sent her maintenance money and a few days before Christmas 1909 he
went to Gwen Ellen’s father’s home in Bethesda with a view to renewing their relationship. The old man told him she had gone
to live to Anglesey, but did not have her
address.

William Murphy
Murphy eventually
traced her to Holyhead and on Christmas Night approached her in a tavern and
asked her to leave with him so that they could discuss their estranged
situation. She left the ‘Bardsey Island Inn’ with him of her own accord and
that was the last time she was seen alive, apart from by those who saw and
heard the both of them singing in each other’s company whilst walking along the
street.
What happened after
they left the public house can only be imagined, but later that night Murphy
went to the Police Station to confess to killing Gwen Ellen and he also led
policemen to a ditch where her body was found. She had been strangled and her
throat had been cut with a knife.
Murphy was arrested
and, after a brief appearance at the Magistrates
Court in Holyhead on December 27th and
was committed to stand trial at Beaumaris Assizes on January 26. 1910.
Even though the
defence made a strong case in an attempt to prove to the jury that Murphy was
not in his right mind when the offence occurred, the defendant was found guilty
of murdering Gwen Ellen Jones on December 25. 1909. He was sentenced to death
by hanging and spent the remainder of his days in Caernarfon Jail.
Many people were
opposed to the Death Sentence and the solicitor, Mr. William George, brother of
David Lloyd George M.P. organized a petition. It was signed by many influential
persons and was sent to the Home Secretary. However, he decided not to
intervene and to allow justice to take its course. Murphy’s brother had to
break the news to him. He showed no emotion and it is doubtful whether he had
ever hoped for a favourable reply.
Father Gouzier, the
Roman Catholic Prison Chaplin, who regularly attended to Murphy’s spiritual
needs, was of the opinion that he was very different from other prisoners he
had known. Confirmation of his assessment is born out by this story related to
the author by the late Miss C. Limerick Jones, 12 Market Street, Caernarfon. Her
grandfather, Richard Jones, Pilot, lived in Shirehall Street and was sometimes
employed at the Jail as an “Extra Warder”. He was with Murphy on the night
before the execution and they talked together and played cards for hours.
Shortly before 8 o’ clock the prisoner shook Richard Jones by the hand and said
“Thanks old man for everything”. He then walked as part of the procession to
the scaffold. Henry Pierrpoint was the Executioner and assisting him was John
Ellis, who later became a Public Executioner.
The crowd eagerly
waited the hoisting of a black flag with its ominous message, but that did not
happen, as the practice was discontinued in 1902, by an Act of Parliament.
However, something unexpected did happen. The Church Bell of St. Mary’s began
to toll, but stopped abruptly after striking only twice. Had the prisoner been
reprieved? The sound of the trapdoor being opened was heard and everyone knew
that it was not so. Later, it was learnt that the clapper of the Church Bell
had worn thin and fallen, and that after 170 years unbroken service.
* *
* * *
*
Whilst adapting the
old jail for use as offices for the County Council in 1932, the bodies of
William Murphy and two others executed at Caernarfon Jail were unearthed and
permission was received from the Home Office to re-inter them at the Llanbeblig Municipal Cemetery.
That was done in the
early hours of the morning, a short service took place, but it was not
permitted to mark the location of the grave.
T. Meirion
Hughes

ANFADWAITH NOS NADOLIG
Cysylltir y Nadolig â hedd a llawenydd nid â
gwrthdaro ac â thristwch, â thynerwch yn hytrach nag â thrais. Tymor Ewyllys Da
ydyw, ond nid yw hyn yn golygu bod y diafol ar wyliau. Digwyddodd erchyllterau
mawr, hyd yn oed ar ddydd Nadolig ei hun, fel yn nhref Caergybi ar Nos Nadolig
1909.
Roedd gwraig briod o’r enw Gwen Ellen Jones o
Fethesda, Arfon wedi bod yn cyd-fyw â labrwr Gwyddelig o’r enw William Murphy a
ganwyd plentyn iddynt. Er bod Murphy yn treulio llawer o’i amser yn gweithio i
ffwrdd roedd yn anfon arian yn rheolaidd i Gwen Ellen at ei fagu.
Rai dyddiau cyn Nadolig 1909 aeth Murphy i
gartref tad Gwen Ellen ym Methesda i chwilio amdani er ceisio adfer y berthynas
a fu rhyngddynt. Dywedodd yr hen wr wrtho ei bod wedi mynd i Sir Fôn, ond na
wyddai yn union i ble. Aeth Murphy i Sir Fôn ac o’r diwedd daeth o hyd iddi yng
Nghaergybi ac ar Nos Nadolig gofynnodd iddi mewn tafarn yno i ddod allan gydag
ef i gael sgwrs am eu sefyllfa. Gadawodd hithau y Bardsey Island Inn yn ei gwmni. Dyna oedd y tro olaf i neb ei gweld
yn fyw oddi eithr y rai a welodd ac a glywodd y ddau’n canu yng nghwmni ei
gilydd wrth gerdded y stryd.
Ni ellir ond dychmygu’r hyn a ddigwyddodd iddi
wedi iddynt adael y dafarn, ond gwyddys i Murphy fynd i Swyddfa’r Heddlu i
gyfaddef iddo lofruddio Gwen Ellen ac iddo fynd â’r heddlu i olwg ei chorff
mewn ffos. Roedd wedi ei thagu ac roedd ei gwddw wedi ei agor â chyllell.
Restiwyd William Murphy ac ar ôl ymddangosiad
byr yn Llys yr Ynadon yng Nghaergybi ar Ragfyr 27ain, anfonwyd ef i sefyll ei
brawf ym Mrawdlys Biwmares ar Ionawr 26. 1910. Er i’w fargyfreithiwr wneud
achos cryf i geisio argyhoeddi’r rheithgor nad oedd Murphy yn ei iawn bwyll pan
gyflawnodd y drosedd, cafwyd ef yn euog o lofruddiaeth a’i ddedfrydu i
farwolaeth trwy ei grogi a threuliodd weddill ei ddyddiau yng Ngharchar
Caernarfon.
Roedd llawer yn wrthwynebus i’r ddedfryd o
farwolaeth a threfnodd y cyfreithiwr William George, brawd yr aelod seneddol
David Lloyd George, ddeiseb. Arwyddwyd hi gan amryw o wyr blaenllaw y cylch ac
fe’i hanfonwyd i’r Ysgrifennydd Cartref yn erfyn arno atal y gosb eithaf.
Penderfynu peidio ag ymyrryd yng nghwrs y gyfraith a wnaeth ef a gadawyd i
frawd Murphy dorri’r newydd iddo. Ni ddangosodd unrhyw emosiwn a phrin ei fod wedi
disgwyl ateb i’r gwrthwyneb.
Bu’r Tad Gouzier, caplan pabyddol y carchar yn
ffyddlon iawn iddo, a’i farn ef am Murphy oedd ei fod yn annhebyg iawn i’r math
o garcharor yr arferai ymweld ag o. Tebyg hefyd yw’r hanesyn hwn a gafodd awdur
hyn o eiriau gan y diweddar Miss C. Limerick Jones, gynt o 12 Stryd y Farchnad,
Caernarfon. Roedd ei thaid Richard Jones, Peilot, yn byw yn Stryd y Jêl ac o
bryd i’w gilydd, byddai yn cael ei alw i wneud gwaith Gwarchodwr Achlysurol (Extra Warder). Bu ef gyda Murphy y noson
cyn ei ddienyddio, a bu’r ddau yn chwarae cardiau ac yn sgwrsio am oriau.
Ychydig cyn 8 o’r gloch, troes y carcharor at Richard Jones a dywedodd “Thanks old man for everything”. Yna
cerddodd o’i gell yn rhan o’r orymdaith i’r crocbren. Henry Pierrpoint oedd y
dienyddiwr ac yn ei gynorthwyo roedd John Ellis, a ddyrchafwyd yn ddiweddarach
i swydd o ddienyddiwr cyhoeddus.
Bu’r dorf o amgylch y carchar yn disgwyl yn
eiddgar i gael gweld a fyddai baner ddu yn cael ei chodi fel arwydd bod y
dienyddiad wedi ei gario allan, ond ni ddigwyddodd hynny, gan i’r arferiad gael
ei atal yn y flwyddyn 1902. Ond fe ddigwyddodd rhywbeth arall. Clywsant gloch
Eglwys St. Mair yn distewi ar ôl dau gnul yn unig. Tybed nad oedd y carcharor i
gael ei golli? Clywsant y ‘trapdoor’ yn
agor a gwyddant fod popeth drosodd. Yn ddiweddarach cawsant wybod bod tafod
cloch yr Eglwys wedi torri a disgyn ar ôl gwasanaethu yn ddi-fwlch am 170 o
flynyddoedd.
* *
* * *
*
Wrth addasu’r hen adeilad carchar ar gyfer
codi swyddfeydd i’r Cyngor Sir yn 1932, daethpwyd o hyd i gyrff William Murphy
a dau arall a ddienyddiwyd yng Ngharchar Caernarfon. Yna, cafwyd caniatâd y
Swyddfa Gartref i’w hail gladdu ym Mynwent Y Dref, Llanbeblig.
Gwnaed hynny yn nhrymder nos a chynhaliwyd
gwasanaeth, ond ni chaniatawyd codi ‘maen na chofnod i nodi’r fan’.
T Meirion Hughes
|