BABANOD:

TI A FI :   Lle i gael mynd efo rhiant/ gofalwyr, taid  neu Nain ar fore Mawrth neu ddydd Iau  i chwarae gyda theganau, tra mae’r gofalwyr yn cael y siawns am sgwrs, ac efallai'r unig gyfle i gymdeithasu mae rhai yn ei gael yn ystod yr wythnos.

TWF : Cyfle i ofalwyr eto i gael gwybodaeth am y Gymraeg, a chael dysgu ychydig am yr iaith gyda’r plant, a hefyd dysgu caneuon yn y Gymraeg i gyd ganu.

INCREDIBLE YEARS: Cwrs yn cael ei redeg gan yr ymwelwyr Iechyd i drafod magu plant yn gyffredinol, fel bod y plant a’r rhiant / gofalwyr yn mwynhau'r profiad i’r eithaf.

CLINIC: Cynhelir clinic babanod yn wythnosol , mae yn llwyddiant gan fod llawer sy’n dod a’u plant i Noddfa, na fuasent yn trafferthu cerdded i lawr i’r prif glinig, am un rheswm neu'i gilydd.

YSGOL FEITHRIN :  Cylch Meithrin Seiont a Pheblig sydd wedi ei gartrefu yn y Ganolfan yw’r mwyaf yn ardal Caernarfon, ac maent yn anelu at statws Cylch Rhagorol, hyn trwy waith caled a di flino'r Arweinydd  -  Eiriona Rees Hughes a’r Staff - maent yn sicrhau bod y plant yn cael y dechreuad gorau bosib cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd.

Cynhelir yr ysgol bob dydd a hefyd ar rai dyddiau yn ystod gwyliau hanner tymor

Wel , hyn sydd ar gael i’r oedran cyn – ysgol , ond beth am y rhai sydd yn yr Ysgol  gynradd neu hyn yn barod.

PLANT A PHOBOL IFANC:

CWMNI COFIS BACH :  Grwp wedi dod at ei gilydd o dan ambarél yr Eglwys  i roi cyfle i bobol ifanc gael dangos eu doniau actol neu gerddorol, ac maent wedi rhoi amryw o berfformiadau gwerth chweil ymlaen, yn y Galeri yng Nghaernarfon, ac yn y Ganolfan, yn cynnwys “Hel Bent a’r Helen” ffilm du a gwyn ardderchog, a gafodd ei ddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sioe Fasiwn ,”Hanes Dre Mewn Hanner Awr” pryd y gwelwyd yr actorion i gyd yn gorymdeithio o’r Ganolfan , i lawr i’r Maes, gyda “Samba Bangor” a’r pinacl a gyflwynwyd yr Haf yma oedd yr Opera ardderchog o’r enw “Trwbl yn y Gwynt”.

CYNLLUN CHWARAE: Cynhaliwyd Cynllun yn y Ganolfan dros 5 wythnos yn ystod gwyliau'r Haf diwethaf , roedd y plant yn ysu i ddod i mewn i’r Ganolfan, ac yn ymfalchïo yn y pethau godidog a greasant yn ystod y sesiynau, mae'r glitter yn dal i ymddangos mewn rhai corneli ambell waith, ond mae rhaid i blant gael eu lle yn does .Mae’r cynllun wedi ei gynnal ers dros 25 mlynedd yn flynyddol. Fe’i sefydlwyd ar y  cychwyn gan  weithiwr Cymunedol y Ganolfan sef  Shan Owen yn ynghyd ac  amryw o famau lleol a fu yn rhedeg y Cynllun yn llwyddiannus. Trosglwyddwyd y Cynllun i’r Eglwys rai blynyddoedd yn ôl, a’r Eglwys sy’n ei redeg bellach, ac maent yn cynnal cynllun yn ystod gwyliau'r Pasg.

CLWB HOGIAU NOS IAU: Unwaith eto bechgyn o oed ysgol, ond y tro yma yn dod at ei gilydd i fwynhau cymryd rhan mewn gemau neu weithgaredd ynghyd a’r gweithiwr Ieuenctid a leolir yn y Ganolfan gan yr Eglwys Bresbyteraidd Yng Nghymru ynghyd a gwirfoddolwyr.

CLWB TLWS: Clwb ar gyfer merched ifanc yn eu harddegau, yma bob nos Lun i drafod amryw o bethau, yn cynnwys colur, a steil yn gyffredinol.

CLWB DARLLEN - Plant oed Ysgol yn dod at ei gilydd, ynghyd a’r gweithiwr Eglwysig Ieuenctid yn Noddfa I drafod bob math o bethau yn ymwneud a darllen a sgwrsio yn gyffredinol.

Wel dyna’r grwpiau yna wedi cael eu lle, ond cofiwch, oes ydach chi isio gweld rhywbeth yma ar eich cyfer, cysylltwch , a phwy a wyr de -

Da ni yn mynd ymlaen at weddill  y Gymuned rwan, a dydi y cyfleodd ddim yn lleihau gydag oedran yma:

TEULU’R BRYN : Grwp o bensiynwyr yn dod ar ei gilydd bob pnawn Llun a phnawn dydd Iau ,i gael paned, gem o ddominos neu Fingo, a chael sgwrs gyffredinol, mae’r hynaf o’r aelodau yn 99 oed ac yn dal i fynychu yn ffyddlon dwywaith yr wythnos ! Mae’r grwp yma ers cyn i’r Ganolfan fodoli fel Canolfan Gymunedol. Fe’u sefydlwyd yn 1975, a chyflwynwyd plaque iddynt yr adeg hon gael y Maer ar y pryd.

CLWB CB : Daw’r grwp yma at eu gilydd ar yr ail Nos Lun yn fisol i drafod eu diddordebau.

JOB CENTRE PLUS : Mae gweithiwr o 'Job Centre Plus' yn y Ganolfan bob dydd Llun, a dydd Iau o fis Tachwedd ymlaen i roi cymorth i’r rhai sy’n ceisio mynd yn ôl i weithio am unrhyw reswm, mae 'na lawer o wybodaeth ganddi am fudd daliadau a’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n dymuno mynd yn ôl i’r gwaith.

COLEG MENAI: Mae cyrsiau yn cael eu rhedeg gan y coleg, yn cynnwys marchnata a gofal, bydd cymhwyster ar ddiwedd y cyrsiau.

HAWLIAU LLES: Mae Mererid Mair ,Gweithiwr Cymunedol yr Eglwys yn cynnig y gwasanaeth yma yn y Ganolfan yn ddyddiol .

TE BACH : Ffansio panad, dowch yma ar y dydd Llun diwethaf bob mis, a chewch baned a theisen spwnj gwerth chweil - merched yr Eglwys fydd yma yn tendiad arnoch chi a’ch diddanu - dowch yn llu.

SGIN T BRES   Mae’r grwp yma yn cyfarfod yn fisol ar hyn o bryd, i roi cymorth ar bob math o faterion yn ymwneud ag arian.

GENESIS -  Mae Genesis wedi lleoli gweithwraig yn Noddfa. Ma’ hi ar gael bob dydd i gymhorthi bobol ifanc i fynd un nai ar gwrs coleg neu yn ôl i waith.

SYRJERI CYNGHORYDD: Mae’r Cynghorydd Tudor Owen yn cyfarfod trigolion bob pythefnos yn y Ganolfan i drafod problemau tai, ac mae yn cael ei gadw yn brysur, coeliwch fi.!!

Cynhelir ysgol Sul a gwasanaeth ar y Sul gan yr Eglwys yma yn Noddfa.

Mae’r Ganolfan ar gael i gynnal Nosweithiau Coffi i godi arian, a hefyd i gynnal partïon pen-blwydd, yn ystod yr wythnos, neu ar y Sadwrn.

Felly galwch draw unrhyw amser os oes na unrhywbeth beth fasa chi yn lecio mwy o fanylion amdan.

 

This is the heart of the estate

True enough, and we all know what happens when the heart stops beating.

Website design by www.CaernarfonOnline.co.uk  Copyright CaernarfonOnline 2011 ©